Neidio at y cynnwys
SFS
  • EnglishChange the language to English
  • Chwilio am drwydded
  • Hafan
  • Beth yw’r SFS
  • Defnyddio’r SFS
  • Gwneud cais am drwydded
  • Cysylltu â ni
dewislen
cau
  • Hafan
  • Beth yw’r SFS
  • Defnyddio’r SFS
  • Gwneud cais am drwydded
  • Cysylltu â ni
  • EnglishChange the language to English
  • Chwilio am drwydded
SFS
Explore this topic
Cau
  • Beth yw’r Gyfriflen Ariannol Safonol?
  • Chwiliwch am gyngor ar ddyledion am ddim
  • Aelod sefydliadau

Beth yw’r Gyfriflen Ariannol Safonol?

Mae’r Gyfriflen Ariannol Safonol (SFS) yn garreg filltir yn natblygiad cyngor ar ddyledion yn y Deyrnas Unedig, sy’n cynnig, am y tro cyntaf, gyfriflen incwm a gwariant gyffredinol, ynghyd ag un set o ganllawiau gwario.

Defnyddir yr offeryn i grynhoi incwm a thaliadau unigolyn, ynghyd ag unrhyw ddyledion sy’n ddyledus. Ar gyfer pobl sy’n chwilio am gyngor ar ddyledion y mae’r SFS yn bennaf, ac fe’i defnyddir ar y cyfan gan ddarparwyr cyngor ar ddyledion a sefydliadau eraill perthnasol.

Mae’n cynnig un ffurf ar gyfer cyfriflenni ariannol, gan roi cyfle i’r sector cyngor ar ddyledion a chredydwyr weithio gyda’i gilydd i gyflawni’r canlyniad iawn i bobl sy’n cael trafferth gyda’u sefyllfa ariannol.

Wedi ei gefnogi a’i ddatblygu mewn partneriaeth gyda rhanddeiliaid allweddol yn y sectorau dyledion a gwasanaethau ariannol, mae’r offeryn yn dwyn mwy o gysondeb a throsglwyddiad mwy llyfn trwy’r broses i ddefnyddwyr, cynghorwyr a chredydwyr.

Cyflwynwyd categori cynilion yn yr SFS, i gydnabod manteision creu gwytnwch ariannol i gleientiaid sy’n cael cyngor ar ddyledion. Disgwylir i’r lwfans cynilo bach hwn helpu i ddatblygu ymddygiad cynilo a chynyddu’r gallu i wrthsefyll sioc ariannol yn ystod cyfnod datrysiad i ddyled.

Pwy oedd yn rhan o ddatblygu'r Datganiad Safonol Ariannol?

Beth yw’r nodweddion allweddol?

Daw’r Gyfriflen Ariannol Safonol â’r manteision canlynol:

  • Un ffurf safonol i gasglu incwm a gwariant
  • Un set o Ganllawiau Gwario
  • Y gallu i gynnwys cyfraniad at gynilion mewn datrysiadau i ddyledion
  • Mwy o gysondeb yn y broses cyngor ar ddyledion i’r defnyddiwr, cynghorwyr a chredydwyr
  • Potensial ar gyfer rhannu data yn fwy lliflin rhwng sefydliadau sy’n helpu unigolyn mewn dyled ormodol
  • Egwyddorion a chyfarwyddyd arfer gorau i ddefnyddwyr

Ni fwriadwyd i’r SFS gael ei defnyddio gan y cyhoedd, felly os ydych yn aelod o’r cyhoedd sy’n chwilio am gymorth gyda phroblemau ariannol, gallwch ddefnyddio’r Offeryn canfod cyngor ar ddyledion gan y HelpwrArian i gael cymorth.

Os ydych yn sefydliad sy’n ymwneud â’r sector cyngor dyledion a’ch bod am ddefnyddio’r SFS bydd angen i chi ymgeisio am god aelodaeth i gael mynediad at y deunyddiau a’r cyfarwyddyd cysylltiedig.

Beth sy’n digwydd i gyfriflenni ariannol eraill?

Y bwriad yw i’r SFS ddod yn unig ffurf a ddefnyddir gan y sector cynghori ar ddyledion, gan gymryd lle’r nifer o gyfriflenni ariannol amrywiol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

Mae hyn yn cynnwys disodli’r Gyfriflen Ariannol Gyffredin (CFS), gyda sylfaenwyr y CFS (Yr Ymddiriedolaeth Cyngor Ariannol, BBA a’r FLA) yn rhan o grwpiau sefydlu a llywodraethu’r SFS.

Tra bydd y CFS a mathau eraill o gyfriflenni yn cael eu tynnu yn ôl yn araf, bydd hyn yn digwydd o fewn amserlen sydd wedi ei chyfleu yn glir gan ystyried cynlluniau trosglwyddo’r sefydliadau y bydd yn effeithio arnynt.

Bydd hyn yn arwain at weld yr SFS a chyfriflenni ariannol eraill yn cael eu defnyddio ochr yn ochr am gyfnod ar ôl i’r SFS gael ei lansio.

Rydym hefyd yn disgwyl y bydd yr SFS yn cael ei defnyddio a’i chydnabod gan bob math o gredydwyr gan gynnwys darparwyr benthyciadau credyd defnyddwyr a reoleiddir gan yr FCA ond hefyd, credydwyr llywodraeth ganolog a lleol, cyfleustodau, ac asiantaethau casglu dyledion.

Pwy wnaeth greu’r SFS?

Mae gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau gyfrifoldeb statudol i wella ansawdd, cysondeb, ac argaeledd gwasanaethau cynghori ariannol ar draws y Deyrnas Unedig.

Fel rhan o’r gwaith hwn, bu’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau yn cydweithio gyda chynrychiolwyr o’r sectorau cyngor ar ddyledion a chredydwyr i gytuno ar y ffurf gorau ar gyfer Cyfriflen Ariannol Safonol.

Bu’r sefydliadau canlynol yn gweithio gyda’i gilydd cyn y lansiad i gytuno ar yr egwyddorion, y cyfarwyddyd, y fformat a swyddogaeth yr SFS:

SFS Pre-launch Governance Group

Accountant in Bankruptcy
Accountant in Bankruptcy
Advice NI
Advice NI
Advice UK
Advice UK
Barclaycard
Barclaycard
Christians Against Poverty
Christians Against Poverty
Citizens Advice
Citizens Advice
Citizens Advice Scotland
Citizens Advice Scotland
Debt Resolution Forum
Debt Resolution Forum
Finance and Leasing Association
Finance and Leasing Association
HSBC Bank
HSBC Bank
Insolvency Service
Insolvency Service
Institute of Revenues Rating and Valuation
Institute of Revenues Rating and Valuation
Lloyds Bank
Lloyds Bank
Money Advice Scotland
Money Advice Scotland
Money Advice Trust
Money Advice Trust
Nationwide Building Society
Nationwide Building Society
PayPlan
PayPlan
Royal Bank of Scotland
Royal Bank of Scotland
StepChange Debt Charity
StepChange Debt Charity
E-bostio
Nol i'r brig
money helper
  • Preifatrwydd
  • Hygyrchedd
  • Cwcis
  • Map safle