Explore this topic
Trwyddedau SFS
Mae’r dudalen hon yn esbonio sut mae trwyddedau SFS yn gweithio, a phryd y bydd angen i chi Wneud cais i ddefnyddio SFS i greu cyfrif newydd.
Trwyddedau a chyfrifon
Rhoddir trwyddedau SFS i sefydliadau. Mae hyn yn golygu, unwaith y bydd gan eich sefydliad drwydded, y gall unrhyw aelod o staff sydd â chyfrif ei ddefnyddio.
Nid ydym bellach yn defnyddio enwau defnyddwyr a chyfrineiriau a rennir ar gyfer sefydliadau. Mae hyn yn golygu, unwaith y bydd gan sefydliad drwydded, y bydd angen i aelodau unigol o staff gofrestru ar gyfer cyfrif eu hunain.
Gwneud cais am drwydded SFS
Os nad oes gan eich sefydliad drwydded eto, bydd angen i chi gwblhau’r ffurflen Gwneud cais i ddefnyddio SFS.
Cwblhewch y ffurflen gais drwy:
- gadarnhau nad oes gennych drwydded eisoes
- rhoi cyfeiriad e-bost busnes
- esbonio beth mae eich sefydliad yn ei wneud a sut y bydd yn defnyddio SFS.
Ein nod yw adolygu eich cais o fewn 10 diwrnod gwaith, er y gallwn ofyn am ragor o wybodaeth.
Yr hyn rydym yn ei wirio pan fyddwch yn gwneud cais
Byddwn yn ystyried rôl eich sefydliad, y gwasanaethau y mae’n eu cynnig ac a yw ei ddefnydd o SFS yn briodol. Efallai y byddwn hefyd yn gwirio statws rheoleiddio sefydliad, megis ei gofrestriad gyda’r FCA neu unrhyw aelodaeth broffesiynol berthnasol.
Caiff sefydliadau nad ydynt yn rhoi cyngor eu hystyried ar sail eu rôl a’u defnydd arfaethedig o SFS.
Creu cyfrif newydd ar gyfer sefydliad sydd â thrwydded
Gallwch barhau i ddefnyddio’r ffurflen Gwneud cais i ddefnyddio SFS i wneud cais am gyfrif newydd ar gyfer unigolyn o fewn sefydliad sydd eisoes â thrwydded.
Bydd angen i chi:
- gadarnhau bod gan eich sefydliad drwydded eisoes
- rhoi rhif aelodaeth eich sefydliad
- cwblhau’r ffurflen gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost gwaith
- dilyn y cyfarwyddiadau yn yr e-bost gwirio i gwblhau’r broses o sefydlu eich cyfrif.
Rhaid i barth eich cyfeiriad e-bost gwaith (y rhan ar ôl y symbol @) gyfateb i’r parth sydd gennym ar gofnod ar gyfer eich sefydliad. Os yw eich sefydliad yn defnyddio parth e-bost gwahanol, cysylltwch â’n tîm ar [email protected] am gymorth.
Os oeddech wedi cofrestru ar ein gwefan flaenorol
Mae’n bosibl bod eich cyfrif wedi cael ei drosglwyddo. Dewiswch ‘Mewngofnodi’, rhowch eich cyfeiriad e-bost gwaith a dewiswch ‘Anghofio cyfrinair’ i osod eich cyfrinair eich hun. Ni fyddwch yn gallu defnyddio hen fanylion mewngofnodi a rennir eich sefydliad.
Cael problemau wrth gofrestru neu fewngofnodi?
Edrychwch ar ein tudalen cysylltu â ni gydag atebion i ymholiadau aml, a manylion ar sut y gallwch gysylltu â ni os oes angen cymorth arnoch.

